Hanes

Eisteddfod Y Fenni

Rhwng 1834 a 1853, trefnwyd 10 eisteddfod yn Y Fenni gan Gymreigyddion Y Fenni,  cymdeithas sy’n dal i gyfarfod hyd heddiw. Noddwyd yr eisteddfodau hyn gan Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, a adwanenid hefyd wrth ei henw barddol Gwenynen Gwent. Cafodd Arglwyddes Llanofer gryn ddylanwad ar ddiwylliant gwerin Cymru, er ei bod o dras Saesnig, trwy hybu’r wisg Gymreig draddodiadol yn ogystal â chaneuon gwerin a’r delyn deires.

Cefnogwyd Gwenynen Gwent yn ei hymdrechion diwylliannol gan ei gŵr, Syr Benjamin Hall (a roddodd ei enw i “Big Ben” Westminster) a chan Thomas Price, neu Carnhuanawc, un o gewri’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gweithiodd ef, fel Arglwyddes Llanofer, yn ddygn dros yr iaith Gymraeg mewn oes lle nad arddeliad o’r fath yn boblogaidd nac yn ffasiynol o gwbl.

Cynigiodd Arglwyddes Llanofer a’i grŵp wobrau hael dros ben i ennillwyr Eisteddfodau’r Fenni, weithiau cymaint ag 80 gini. Daeth cystadleuwyr o bell, ac roeddent yn cynnwys ysgolheigion Celtaidd o wledydd Ewrop ynghyd â llenorion o Gymry amlwg.

Yn 2002, ailgychwynwyd Eisteddfod Y Fenni gan grŵp lleol dan arweiniad Cynghorydd y Dref Douglas Edwards a’i wraig Edna, gyda Mrs Bronwen Green, Prifathrawes Ysgol Gymraeg Y Fenni. O 2003 ymlaen Ceri Thomas oedd cadeirydd y grŵp, ac yn 2012 etholwyd Rosemary Williams i’r swydd.

Ar y dechrau dim ond plant ysgol o ysgolion lleol oedd yn cystadlu, a chynhaliwyd y cystadleuthau i gyd yn yr Ysgol gyfun leol, Ysgol Brenin Harri’r VIII. O 2003 ymlaen, dechreuwyd cynnwys cystadleuthau i oedolion, ac yn 2004 symudwyd cystadleuthau’r oedolion i Theatr y Bwrdeistref, lleoliad sy’n gweddu’n dda i noson o gystadlu amrywiol o’r safon orau.

Y traddodiad eisteddfodol

Mae`r traddodiad o gynnal eisteddfodau yn un hen, hen iawn. Ystyr gwreiddiol eisteddfod oedd cynhadledd o bobl, yna casgliad o feirdd ac ymhen amser gŵyl yn cynnwys elfennau diwylliannol, nid anhebyg i`r gweithgareddau a welwn heddiw mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Cynhaliwyd cyfarfod o feirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi ym 1176, ac yn ôl rhai dyma`r eisteddfod gyntaf mewn hanes. Ond mae`n sicrach mai cyfarfodydd tebyg i hyn yng Nghaerfyrddin tua 1451 ac yng Nghaerwys, ger Treffynnon, Sir Fflint ym 1523 a 1567 yw gwir darddiad yr eisteddfod fel yr adwaenir hi yng Nghymru fodern. Yng nghyfnod eisteddfodau Caerfyrddin a Chaerwys y sefydlwyd cyfundrefn o feirdd ynghyd á`r drefn fydryddol a sefydlu galwedigaeth beirdd yn ffurfiol.

Nid oes hanes eisteddfodol yn dilyn wedyn tan y ddeunawfed ganrif. Yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg dechreuwyd cyhoeddi Almanaciau, llyfrynnau rhad yn darogan y tywydd, darllen y sêr a chyhoeddi mân ddarnau o farddoniaeth a charolau. Ym 1701 trefnwyd eisteddfod gan un o gyhoeddwyr yr Almanaciau hyn, sef Thomas Jones, ym Machynlleth. Fe`i dilynwyd gan eraill yn Llandegla ym 1719, Dolgellau ym 1734 a`r Bala ym 1738.

Ychydig yn ddiweddarach aeth Edward Williams (1747-1826), sef Iolo Morgannwg, ati i ddyfeisio trefn dderwyddol newydd a sefydlu cyfundrefn a alwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn fuan wedyn cafodd y mudiad eisteddfodol hwb newydd mewn sawl talaith yng Nhymru, yn bennaf trwy weithgareddau Cymdeithasau`r Cymreigyddion, gan gynnwys Cymreigyddion y Fenni, a sefydlwyd ym 1833. O hyn ymlaen tan 1854 cynhaliwyd deg eisteddfod yn Abergafenni. Ar gychwyn pob eisteddfod cafwyd gorymdeithiau ysblennydd o gyrion y dre hyd at Westy`r Angel.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberdâr ym 1861, ond ni chafwyd olyniaeth o eisteddfodau cenedlaethol tan 1881 gydag Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tudful. Byth er hynny cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol ag eithrio 1914 a 1940 adeg y ddau ryfel byd.

Heddiw cynhelir nifer fawr o eisteddfodau lleol a chenedlaethol ledled Cymru, yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd i bobl ifainc ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a gynhelir yn y dref honno pob mis Gorffennaf. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf ym 1947, gyda’r nod o hybu heddwch rhwng y cenhedloedd ar ôl yr ail ryfel byd. Denir 2,500 o gystadleuwyr o dros 40 gwlad i Langollen ar gyfer yr Ŵyl hon, heb sôn am niferoedd mawr o ymwelwyr sy’n dod i fwynhau’r achlysur.