Mae croeso cynnes i unrhyw un gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ble bynnag y maen nhw’n byw, Gallant gystadlu yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel unigolion, neu fel aelodau o grwpiau, ysgolion neu syfydlaoedd.
Cystadlaethau
Mae cystadlaethau yn cynnwys canu (lleisiol ac offerynnol), dawnsio gwerin, dawnsio disgo a llefaru ar gyfer unigolion a grwpiau. Gellir gweld rhestr lawn yn y ffurflen gais (gwelir “Sut i gystadlu” isod).
Dyddiadau ac amseroedd
- Dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau: Mawrth 13eg 2025.
- Rhagbrofion (os mwy na 3)
- Cystadlaethau terfynol ar y llwyfan: o 9:00 ymlaen, Dydd Sadwrn, Mawrth 29ain 2025
Dyddiadau a lleoliadau rhagbrofion 2025
Mae’r rhagbrofion i gyd yn dechrau am 4.00 y prynhawn.
Cystadlaethau |
Dyddiad |
Lleoliad |
Llefaru a Darllen ar yr olwg gyntaf |
Dydd Llun 17eg Mawrth |
Llantilio Pertholey |
Unawd lleisiol ac ensemble |
Dydd Mawrth 18fed Mawrth |
Ysgol Gymraeg Y Fenni |
Côr |
Dydd Mercher 19eg Mawrth |
Cantref |
Offerynnol cynnwys piano |
Dydd Iau 20fed Mawrth |
Llanfoist Fawr |
|
|
|
Cystadlaethau terfynnol, Capel y Methodist, Stryd y Castell, Y Fenni NP7 5EH ar Sadwrn Mawrth 29ain 2025.
Gwobr Arbennig i’r Côr!
Bydd y côr buddugol yn derbyn tarian i gadw am flywddyn ynghyd a tharian fach i gadw. Eleni bydd pob côr buddugol yn derbyn gwobr ariannol i’r ysgol a thystysgrif i bob aelod o’r côr.
Rheolau cystadlu
- Rhaid i oedolyn cyfrifol, boed yn riant neu warcheidwad, yn athro neu’n arweinydd cymdeithas, fod gyda phlant dan 12 oed bob amser.
- Gall cystadleuwyr ddewis eu darnau eu hunain, ond eu bod o fewn 4 munud o hyd.
- Rhaid i’r deunyddiau a ddefnyddir, gan gynnwys testunau, cerddoriaeth a chaneuon, fod yn addas i bob oedran. Gwaherddir unrhyw berfformiad sy’n cynnwys deunydd anaddas.
- Am resymau diogelwch a gofod, rydym wedi gosod uchafswm ar gyfer y niferoedd sy’n cystadlu yn y cystadlaethau i ensembles offerynnol a dawnsio cyfoes.
Cystadlaethau cerddorol
- Rhaid i gystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r gerddoriaeth gyda nhw, gan gynnwys y copi gwreiddiol. Mae un ar eu cyfer eu hunain a’r llall ar gyfer y beirniad; dylai enw’r cystadleuydd a rhif y gystadleuaeth fod ar y copi hwn. Byddwn yn dinistrio copïau ar ôl yr eisteddfod, i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawlfraint.
- Bydd yn rhaid gwahardd unrhyw gystadleuydd nad yw’n cyflwyno cerddoriaeth.
- Gall arweinwyr neu cyfeilydd fod yn oedolion neu’n blant.
- Gofynnir i gystadleuwyr os oes angen cyfeilydd arnynt roi gwybod i’r trefnwyr a chyflwyno’r cyfeiliant ymlaen llaw (gweler y ffurflen gais isod).
Cystadlaethau llefaru
Gofynnir i’r cystadleuwyr ddod â 2 gopi o’r darn ar gyfer y beirniad a’r trefnydd.
Sut i gystadlu
Gallwch gwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Hefyd, gallwch lawr lwytho ‘pdf’ er mwyn ei brintio allan a’i lenwi.
Os hoffech chi gopi caled o’r gais, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com neu drwy’r post at: Rosemary Williams, 7 Cwrt Newydd, Crughywel, Powys, NP8 1AQ
Rhagor o wybodaeth
Os oes ymholiadau gennych, cysylltwch â Rosemary Williams ar 01873 811814 neu davidwilliams177@btinternet.com
Nodiadau
- Croeso cynnes i ymwelwyr. Gall oedolion brynu tocyn am £3.00 yn y rhagbrofion, sy’n rhoi mynediad i’r rhagbrofion i gyd ac i’r cystadlaethau terfynol Dydd Sadwrn, Mawrth 29ain 2025.
- Mae plant a phobl ifanc i fyny at 18 oed yn dod i mewn am ddim.
- Byddwn yn tynnu ffotograffau ac yn eu defnyddio i hybu’r eisteddfod. Rhowch gwybod i aelod o’r Pwyllgor os nad ydych am eich plentyn gael ei lun wedi tynnu.